Yn ôl Dr Anwen Elias mae’r “canfyddiadau hyn yn rhoi cipolwg pwysig ar sut mae pobl yng Nghymru yn deall ac yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth ar adeg hollbwysig cyn etholiad y Senedd”.
“Ar y cyfan, mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod gan etholwyr Cymru ddiddordeb cyffredinol mewn gwleidyddiaeth, gan gynnwys etholiad y Senedd.
“Fodd bynnag, mae dealltwriaeth o sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru yn gymysg, ac mae gwybodaeth am y diwygiadau etholiadol ar gyfer yr etholiad nesaf yn gyfyngedig.”
Dywedodd Dr Bettina Petersohn o Brifysgol Abertawe bod y data’n dangos bod nifer “yn ymddiddori yn yr etholiad sydd i ddod, a bod y mwyafrif yn credu bod pwy fydd yn ennill etholiad y Senedd yn gwneud gwahaniaeth.
“Ar yr un pryd, roedd dealltwriaeth am y system etholiadol newydd yn isel ar ddechrau’r ymgyrch etholiadol. Yn gyffredinol, mynegodd pobl hefyd teimlad nad oes ganddynt lawer o ddylanwad dros benderfyniadau a wneir ar gyfer y Deyrnas Gyfunol, ond hefyd yng Nghymru a’r ardal leol.”
















































