Ar ddiwrnod braf yng Nghasnewydd ddydd Sul fe lwyddodd CPD Caernarfon i ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes.
Roedd miloedd o gefnogwyr Fflint a Chaernarfon wedi teithio lawr i dde Cymru i fod yn rhan o’r achlysur.
3-0 oedd y sgôr terfynol, gyda’r Cofis yn sgorio’r goliau i gyd yn yr 20 munud agoriadol.
Er gwaetha’r sgôr roedd cefnogwyr Fflint mewn hwyliau da, a’r Cofis yn dathlu drwy gydol y gêm, dyma luniau o’r rheiny deithiodd i Gasnewydd i wylio’r gêm.















































