Mae’r gwasanaethau brys wedi’u galw wedi digwyddiad yng Nghastell y Waun lle mae bachgen 17 oed ar goll.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd mai’r gred ydyw iddo fynd i ddŵr o fewn tiroedd y castell brynhawn Mawrth ac nad ydyw wedi’i weld ers hynny.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Sian Beck bod yr heddlu yn meddwl am deulu ac anwyliaid y bachgen a’u bod yn derbyn cefnogaeth.
“Rydym yn gofyn yn barchus i aelodau’r cyhoedd i osgoi ardal Castell y Waun tra bod y gwasanaethau brys yn gwneud eu gwaith.
“Rydym yn deall bod y digwyddiad hwn yn debygol o achosi pryder ac rydym yn gwerthfawrogi cydweithrediad y cyhoedd,” meddai’r ditectif.















































