Mae Ruby Evans wedi cael ei choroni’n bencampwyr ym Mhencampwriaethau Gymnasteg Artistig Prydain yn Lerpwl.
Yn troi’n 19 oed yr wythnos hon, Evans ydy’r athletwr cyntaf o Gymru i hawlio’r teitl ers dros 60 mlynedd, gan orffen o flaen Ruby Stacey a Shantae-Eve Amankwaah.
Cipiodd Joe Fraser, 27 o Loegr, deitl y dynion, gyda Jonas Rushworth a Jake Jarman yn cyrraedd y podiwm yn M&S Bank Arena – oedd yn llawn.
“Fi’n teimlo’n dda, fi’n hapus. Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill,” meddai Evans ar ôl cipio’r safle cyntaf.

















































