Mae dwy ysgol uwchradd yng Nghaerdydd ar gau ddydd Llun “fel mesur diogelwch rhagofal” yn dilyn adroddiad i’r heddlu nos Sul.
Dywed Heddlu De Cymru bod y penderfyniad i gau Ysgol Uwchradd Llanisien ac Ysgol Uwchradd y Dwyrain, yn Trowbridge, yn dilyn trafodaethau rhwng y llu a Chyngor Caerdydd.
Roedd hynny “er mwyn osgoi risg, yn dilyn adroddiad i’r heddlu nos Sul,” dywedodd yr Arolygydd Mark Kavanagh.
“Mae’r adroddiad hwnnw dan ymchwiliad ar hyn o bryd.”
Ychwanegodd: “Nid ar chwarae bach y gwnaethpwyd y penderfyniad yma, ond gyda diogelwch disgyblion, staff a chymunedau ehangach yr ysgolion mewn golwg.”

















































