Mae awyren oedd yn hedfan o Faes Awyr Caerdydd i Cyprus wedi gorfod dargyfeirio i Birmingham, ar ôl taro aderyn.
Roedd yr awyren, math Boeing 737, ar hediad TOM 6754 yn cael ei gweithredu gan gwmni TUI ac roedd yn codi ar adeg y digwyddiad – am tua 16:30 ddydd Sul.
I ddechrau, roedd y peilotiaid yn cylchdroi Bae Abertawe – tua 3,000 troedfedd oddi wrth y ddaear, cyn codi ac anelu tuag at orllewin canolbarth Lloegr.
Llosgodd yr awyren danwydd mewn cyfres o orbitau, cyn glanio ym Maes Awyr Birmingham, lle cafodd y teithwyr a’r criw eu glanio’n ddiogel.















































