Mae achosion o glefyd y tafod glas wedi eu canfod mewn da byw ym Mhowys a Sir Fynwy yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fe ddywedodd Adran Materion Gwledig y llywodraeth bod Tafod Glas math BTV-3 wedi ei ganfod mewn dwy safle.
Ym mis Mehefin, cafodd cyfyngiadau eu cyflwyno ar symud da byw dros y ffin o Loegr i Gymru ond fe gafodd rhai cyfyngiadau eu llacio ar 21 Medi.
Mae’r llywodraeth yn annog perchnogion da byw i “fod yn wyliadwrus a pharhau i brynu da byw yn ddiogel” ac mae cais wedi cael ei wneud am sylw pellach.


















































