Dywedodd brodyr a chwaer Ms Baker, Zak, Sam a Claire, ei bod hi “byth yn ofni bod yn hi ei hun – hyd yn oed os oedd hynny’n golygu bod ychydig yn flêr, ychydig yn ystyfnig, neu ychydig yn ddadleuol”.
“Dyna rai o’r pethau yr oedden ni’n eu caru fwyaf amdani.
“O dan y cyfan roedd calon llawn cariad ac roedd yn driw iawn i’r rhai yr oedd hi’n poeni amdanyn nhw.”
Ychwanegodd y tri: “I’n chwaer – diolch i ti am fod yn ti dy hun. Byddi di’n rhan ohonom ni am byth a byddwn ni’n cario dy atgofion gyda ni bob dydd.”
Dywedodd rhieni Ms Baker, Julie a Jeff, fod twll enfawr wedi cael ei adael – “na fydd fyth yn cael ei lenwi”.

















































