Yn ôl pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin, mae’r her o recriwtio wedi cynyddu ers y pandemig a bod prinder athrawon mewn ysgolion Saesneg hefyd.
“Mae’r ffaith bod dysgu o fewn yr ystafell ddosbarth yn golygu nad yw mor hyblyg â swyddi proffesiynol eraill… ac efallai fod hynny’n dylanwadu ar bobl wrth feddwl am yrfa,” meddai Dr Llinos Jones.
Dywedodd bod y llywodraeth yn gwneud eu gorau i recriwtio mwy trwy farchnata a chynnig bwrsariaethau gwahanol, ond ychwanegodd:
“Os nad ydi’r ffrwyth llafur yna’n cael ei amlygu ym maint y bobl sy’n ymgeisio am swyddi, mae wir yn bryder.”
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio gyda sefydliadau gwahanol i greu cyfleoedd i hyfforddi ac astudio yn Gymraeg.
Mae prinder athrawon, yn enwedig ar gyfer y gweithlu Cymraeg mewn addysg, wedi cyrraedd “pwynt gwirioneddol argyfyngus”, yn ôl y corff.













































