Dywedodd Drew Sherman, pennaeth Academïau’r Gymdeithas Bêl-droed eu bod wedi cyflwyno’r rhaglen hon er mwyn i chwaraewyr o dan 13 oed “chwarae mewn cystadleuaeth unigryw iddyn nhw”.
“Dyna’r newid mwyaf – llenwi’r gwagle er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd i ferched,” esboniodd.
“Mae hynny hefyd yn caniatáu i’n rhaglen ranbarthol ni ganolbwyntio ar y chwaraewyr mwyaf talentog sydd â chyfle gwirioneddol o gael gyrfaoedd gyda’r tîm cenedlaethol.”
Timau merched dan-13 oed fydd y cyntaf i fanteisio ar y drefn newydd, sy’n benderfyniad doeth yn ôl Dewi Owen, sy’n hyfforddi gydag academi Caernarfon.
“Dwi’n meddwl bod y penderfyniad iawn ‘di cael ei wneud o ran dechrau efo’r oedran yma, achos ‘da ni ‘di gweld dros y blynyddoedd niferoedd y genod sy’n cymryd rhan mewn pêl-droed yn cynyddu a thimau newydd yn sefydlu bob tymor,” meddai.
“So dwi’n meddwl oedd o’n bwysig bod o ddim yn effeithio ar y timau sy ‘na yn barod ar lawr gwlad, ac yn amlwg dibynnu ar genod y timau yna i greu’r tîm academi.
“Fydd ond colli dau neu dri o’r timau hynny ddim yn effeithio arnyn nhw gymaint â ‘sa nhw ‘di mynd am oedran arall – ‘falla ‘sa un neu ddau o dimau di stopio fel arall.”
















































