Mae diffoddwyr tân wedi bod yn delio â thân mawr mewn coetir yng ngogledd Sir Ddinbych ddydd Sul.
Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub wybod am y digwyddiad oddi ar Ffordd Dyserth ger y Rhyl am 08:15.
Ar un adeg, roedd criwiau o Brestatyn, Bae Colwyn a’r Rhyl yn bresennol.
Cafodd dwy uned sy’n arbenigo mewn tanau gwyllt eu galw o Abergele hefyd.
Er bod llai o griwiau yno erbyn hyn mae’r digwyddiad yn parhau.

















































