Mae Tudur Hallam yn byw gyda’i wraig, Nia, a’u plant Garan, Bedo ac Edwy yn Foelgastell, Sir Gaerfyrddin.
Mae’n Athro Emeritws ym Mhrifysgol Abertawe lle y bu’n addysgu ac ymchwilio ym maes y Gymraeg.
Dywedodd yr Eisteddfod fod Tudur eisiau diolch i’w deulu a’i ffrindiau am bob arwydd o gariad a chefnogaeth, yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ei gymuned, mae wedi mwynhau hyfforddi timoedd rygbi a phêl-droed, gan gynnwys tîm pêl-droed merched dan 14 oed Sir Gaerfyrddin.
Yn llenyddol, dywedodd Tudur fod ei ddyled yn fawr i’w athrawon yn Ysgol Gymraeg Rhydaman ac Ysgol Maes yr Yrfa, ei ddarlithwyr prifysgol yn Aberystwyth, y timau talwrn y bu’n aelod ohonynt, ei gyd-ddarlithwyr a’i fyfyrwyr yn Abertawe, ei gyfaill agos, Robert Rhys, ynghyd â’r Urdd.
Roedd ennill y Fedal Lenyddol a Chadair yr Urdd yn hwb i ddilyn gyrfa ym maes llenyddiaeth.
Yn 2010, enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn 2019 cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth, Parcio.


















































