Yn ogystal â pheidio cael y cyfle i bwysleisio y gwelliannau oedd eisoes wedi cael eu gwneud, dywedodd ei bod yn edifar ganddo i beidio bod yn fwy agored gyda’r wasg am yr hyn oedd yn digwydd.
Roedd hynny’n anodd, meddai, gan fod yn rhaid i’r Eglwys ddangos bod y wybodaeth a roddwyd gan y rhai a roddodd dystiolaeth yn gwbl gyfrinachol.
Wrth siarad â John Roberts am y tro cyntaf wedi i gynnwys yr adroddiadau ddod i’r amlwg, ychwanegodd Andy John nad oedd yn ymwybodol o’r “diwylliant yfed” yng nghôr Cadeirlan Bangor.
“Mae’r syniad, ar ôl gwasanaethau mawr, bod y côr yn mynd allan yn hwyr yn newyddion trist i fi – trist iawn iawn.
“Oherwydd mae beth sy’n digwydd tu allan i’r Sul yn adlewyrchu ar beth sy’n digwydd ar y Sul hefyd.
“Mae’n rhoi’r argraff fod beth sy’n digwydd yn y gadeirlan yn ofnadwy. Roedd hi’n sioc i glywed am oryfed yn y gadeirlan.”
Dywedodd bod honiadau am bobl yn gwneud jôcs amhriodol pan oedd plant o gwmpas yn “annerbyniol”, a bod newidiadau i’r diwylliant yn angenrheidiol.













































