Dyw cyhoeddiad diweddaraf y brifysgol ddim yn eu hatal rhag cyflwyno diswyddiadau gorfodol y tu hwnt i 2025, ac mae UCU wedi galw arnynt i fynd gam ymhellach er mwyn diogelu staff rhag diswyddiadau posib.
Maen nhw am weld rheolwyr yn “cydnabod yr argyfwng ac yn cymryd cyfrifoldeb llawn am yr effaith mae eu penderfyniadau yn ystod y broses yma wedi ei gael”, yn ogystal â “bwrw ati i gefnogi iechyd meddwl staff ar frys a buddsoddi yn sylweddol mewn rhagor o adnoddau iechyd meddwl a chefnogaeth lles”.
Fe wnaeth yr undeb gydnabod fod gofynion sy’n wynebu tîm lles y brifysgol yn sylweddol, ond nad oeddyn nhw wedi gweld unrhyw arwyddion bod y mater am gael ei ddatrys.
“O ystyried yr hyn rydyn ni wedi ei weld hyd yma o ran effaith y broses ar iechyd staff, rydyn ni’n poeni yn fawr am y ffaith bod dros 400 o staff dal yn wynebu’r posibilrwydd o golli swyddi,” meddai’r undeb.
“Mae cynllun presennol y rheolwyr, fydd yn cael ei ystyried gan gyngor y brifysgol yr wythnos nesaf, yn golygu y byddai’r bobl hynny mewn peryg am flynyddoedd i ddod.
“Fe allai hyn arwain at sefyllfa drychinebus ble mae’r hyn rydyn ni wedi ei glywed wedi’n harolwg diweddar yn dod yn normal newydd.
“I fod yn gwbl blaen, fe allai hyn fod yn fater o fyw neu farw.”















































