Mae’r Trysorlys wedi dweud mai camgymeriad oedd rhoi’r rheilffordd yn y categori o brosiectau “Lloegr yn unig.”
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: “Gwall cyhoeddi oedd hyn yn y Datganiad o Bolisi Ariannu wedi Adolygiad Gwariant 2020.”
Dyw Mr Lake ddim yn derbyn hynny.
“Yn gyntaf, dwi wedi dysgu ers fy mlynyddoedd yn San Steffan, nad yw’r trysorlys byth yn gwneud camgymeriadau.”
Mae’n dweud bod hynny yn codi cwestiynau ynglŷn â’r arian y mae llywodraeth Cymru eisoes wedi ei dderbyn dan y fformiwla Barnett.
“Maen nhw wedi talu arian cyfatebol i lywodraeth Cymru, felly os mai camgymeriad cyhoeddi oedd hi, fydde dyn ddim yn disgwyl wedyn bod yr arian wedi llifo o Lundain i gronfeydd llywodraeth Cymru,” meddai Mr Lake.
“Os, fel maen nhw’n dadlau, camgymeriad oedd hyn, yna dyw’r arian hynny ddim yn ddyledus i Gymru, ac felly mae cwestiwn lletchwith iawn yn codi a fydd yn rhaid i lywodraeth Cymru dalu rhywfaint o hynny yn ôl i lywodraeth Prydain?”













































