Bydd manylion llawn cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith yn cael eu cyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd ddydd Iau.
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n rhoi cymorth i ardaloedd sydd â chrynodiadau uwch o siaradwyr Cymraeg i dargedu cymorth, yn ogystal â gwella mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.
Fe fyddan nhw hefyd yn rhoi mwy o arweiniad am yr iaith ar draws ystod o feysydd polisi gan gynnwys yr economi, tai, datblygu cymunedol ac addysg.
Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i drafod a gweithredu’r argymhellion.
Dywedodd Mark Drakeford trwy dderbyn argymhellion y Comisiwn, y gallan nhw “gryfhau’r Gymraeg yn ein cymunedau”.
“Rydym yn cytuno mewn egwyddor y dylid dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol a byddwn yn symud hyn ymlaen yn awr drwy weithio gyda phartneriaid i greu polisïau wedi’u teilwra sy’n ymateb i anghenion penodol cymunedau Cymraeg eu hiaith,” meddai.
















































