Dyw bod ar y teledu ddim yn brofiad dieithr i dad Guto, Daniel Bell, gan ei fod yn rhan o’r gyfres Ysgol Ni, Y Moelwyn.
“Mae’n bwysig bod Guto yn enjoio’r profiad a fod petha’ ddim yn mynd yn ormod iddo fo,” meddai.
“Hyd yn hyn mae o wedi joio gweld ei hun ar y teledu a chlywed ei hun ar y radio.
“Mae Dad yn eitha cenfigennus bod tri munud yn yr Eisteddfod wedi ‘neud o yn fwy poblogaidd na Dad mewn cyfres gyfan.”
Dywedodd ei fam bod y profiad y mae’r Urdd yn ei roi i blant a phobl ifanc yn gwbl arbennig.
“Mae’r hyder y mae’r Urdd wedi gallu roid i Guto yn ei ail flwyddyn o gystadlu – mae o mor, mor werthfawr,” meddai.














































