Mae Undeb Rygbi Cymru wedi targedu Steve Tandy i fod yn brif hyfforddwr newydd ar dîm y dynion.
Mae’r undeb yn chwilio am olynydd parhaol i Warren Gatland, ar ôl i Matt Sherratt gymryd y llyw dros dro yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Ar hyn o bryd mae Tandy yn gweithio fel hyfforddwr amddiffyn gyda’r Alban, ac mae ganddo gytundeb tan 2026.
Pe bai Tandy, 45, yn derbyn y swydd, mae amheuon a fyddai’n gallu dechrau yn y rôl mewn pryd i arwain taith Cymru i Japan ym mis Gorffennaf.
Sherratt, prif hyfforddwr Rygbi Caerdydd, fyddai’r ffefryn i arwain y daith honno.













































