Cafodd 15 o bobl eu hachub ar ôl i sawl cwch hwylio droi drosodd wrth rasio oddi ar arfordir Gwynedd ddydd Mercher.
Cafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau a thimau achub Cricieth ac Abersoch eu galw i’r digwyddiad ger Pwllheli tua 14:15.
Roedd adroddiadau i ddechrau yn nodi bod 15 o bobl mewn trafferth, ond roedd y nifer yma wedi gostwng i bedwar erbyn i’r timau achub gyrraedd.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod “pob unigolyn oedd yn y dŵr wedi eu hachub a’u cludo’n saff i’r lan”.
Roedd y bobl a aeth i drafferth yn rhan o gystadleuaeth ieuenctid genedlaethol RYA.
Mae un cwch yn dal heb ei ddarganfod, ond mae disgwyl iddo ddod i’r lan, medd Gwylwyr y Glannau Cricieth
Maen nhw’n awyddus i atgoffa pobl i fod yn wyliadwrus o’r amodau ac i wirio rhagolygon y tywydd, am eu bod yn gallu newid yn sydyn.
Dywedodd llefarydd: “Yn y diwedd, cafodd pawb eu hachub, ond yn teimlo’n oer iawn ac yn wlyb.
“Cafodd un anaf ei nodi – ac rydym yn dymuno gwellhad buan iddi.”

















































