Ond cymysg yw’r teimladau am y datblygiad.
Wrth edrych ymlaen at y newid, dywedodd cyn fewnwr Abertawe, Cymru a’r Llewod Robert Jones: “Mae’n drist mewn un ffordd achos wrth gwrs mae’r cae mynd i newid, mae 4G mynd i ddod mewn a fi’n gwybod pam.
“Ond roedd gan San Helen un o’r caeau gorau ym Mhrydain.”
Aeth ymlaen i ddweud: “Mae’n neis bod y Gweilch yn dod lawr fan hyn a taw fan hyn fydd cartref nhw yn y dyfodol.
“Mae hynny’n bwysig nid jyst i Glwb Rygbi Abertawe ond i’r ardal i gyd.”















































