Ychwanegodd: “Natho nhw wario gymaint o amser efo fi ar y pryd hynny i lywio y daith.
“A dim yn unig y ffordd ymarferol ond hefyd y gefnogaeth emosiynol oedden nhw’n ei roi, a’r gefnogaeth seicolegol i ddeud y gwir.
“Achos mae o yn amser mor fregus i fam yn y dyddia’ cynnar yne, ac mae o’n gallu bod yn reit unig hefyd ar adegau, ac oedd jyst gw’bod bod yna rhywun yne i ganolbwyntio ar hynny hefo fi yn amhrisiadwy.
“Dwi’n meddwl fasa fo yn trasiedi fasa ‘na ddim y gwasanaeth yma, o ran rhoi y dechre gore ‘na i fabanod ac i famau yn y dyddie cynnar yne.
“I’r rhai sydd isio bronfwydo mae o’n hanfodol bwysig.”

















































