Ar ôl cyhoeddi y bydd Prifysgol Caerdydd yn ymgynghori ar dorri 400 o swyddi, mae wedi dod i’r amlwg bod cyfrifon wrth gefn heb gyfyngiadau wedi cynyddu dros 50%, i dros £0.5bn mewn blwyddyn.
Dywedodd undeb y darlithwyr wrth Newyddion S4C eu bod yn galw ar y Brifysgol i ddefnyddio peth o’u harian wrth gefn i liniaru’r pwysau ariannol ar y sefydliad.
Yn ôl Prifysgol Caerdydd, dyw arian wrth gefn heb gyfyngiadau ddim yn cyfateb ag arian parod i’w wario, ac maen nhw’n dweud bod “costau dysgu ac ymchwilio £31.2m yn ddrutach na’r arian gafodd ei gynhyrchu gan y gweithgareddau rheiny”.
Dywedodd cynrychiolydd undeb yr UCU ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Andy Williams, bod yr undeb nawr yn trafod streicio gyda’r aelodau.













































