Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gellir disgwyl cyfnodau o law trwm ar draws Cymru yn ystod y dyddiau nesaf.
“Fe allai’r cyfnodau o law trwm arwain at lifogydd ar rai ffyrdd ac mewn adeiladau,” medd llefarydd.
Fe allai hyd at 40mm (1.6 modfedd) o law ddisgyn mewn mannau, tra bod hyd at 70mm (2.8 modfedd) yn bosib ar dir uchel.
Mae’r rhybudd am law yn berthnasol i siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Merthyr Tudful, Mynwy, Penfro, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Wrecsam.
















































