Mae’r sefyllfa’n effeithio ar gyflenwadau yng Nghonwy, Dolgarrog, Eglwysbach, Groesffordd, Gwytherin, Henryd, Llanbedr y Cennin, Llanddoged, Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Maenan, rhannau o Lanrwst, Pandy Tudur, Pentrefelin, Rowen, Rhyd y Foel, Tal y Bont, Tal y Cafn, Tyn Groes a Trofarth.
Yn gynharach ddydd Iau roedd Dŵr Cymru’n disgwyl i’r atgyweiriadau gael eu cwblhau yn ystod y dydd, er bod y gwaith yn “anodd a pheryglus”.
Eglurodd llefarydd bod y brif bibell ddŵr wedi byrstio ddau fetr a hanner o dan wely’r afon, a bod rhaid defnyddio peirianwaith arbenigol i greu argae ac ailgyfeirio’r afon.
Roedd angen gwneud hynny “er mwyn gosod blwch o amgylch y bibell sydd wedi’i difrodi fel y gallwn gloddio a chael mynediad i’r brif bibell ddŵr… tra’n diogelu ein gweithlu a’r amgylchedd”.
Ond erbyn diwedd y prynhawn, fe ddywedodd y cwmni bod y gwaith atgyweirio’n cymryd mwy o amser na’r disgwyl.














































