Dywedodd Dr Evans ei fod “ond yn briodol fy mod yn ymateb gyda’r ffeithiau o ran fy nghyfraniad i achos Lucy Letby,” gan fod ei thîm cyfreithiol wedi ei enwi yn eu cyhoeddiad.
Yn achos Babi C, fe gyfeiriodd at ddryswch a gododd ynghylch union amseriad penodol y digwyddiad gan ddweud ei fod wedi anfon “adroddiad manwl i Heddlu Sir Gaer sy’n egluro’r sefyllfa” o ran amseriad yr ymosodiad ac achos y farwolaeth.
Roedd y dystiolaeth o rôl Letby yn achos dirywiad a marwolaeth Babi I, meddai, “yn rymus ac aruthrol”, ac “yn gyson ac yn sylweddol” yn achos Babi P.
“Mae sylwadau Mark McDonald ynghylch fy nhystiolaeth heb ei brofi, yn ddi-sail, ac yn anghywir,” dywedodd.
“Ni allaf gofio unrhyw KC yn cyflwyno dadleuon ar ran cleient trwy gynhadledd newyddion, yn enwedig mewn achos o’r fath sensitifrwydd… Mae’n hynod amharchus i deuluoedd babanod a gafodd eu llofruddio a’u niweidio gan Lucy Letby.”
















































