Ond beth am ddyfodol yr iaith ym marn Meirion Macintyre Huws?
Yn ei Awdl fuddugol nôl yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd yn 1993 mae’r prifardd yn sôn am yr hen do yn anobeithio am ddyfodol Cymru a’r iaith tra bod yr ifanc yn llawn hyder.
‘Ni yw’r her
yn dwf o hyder, Ni yw’r dyfodol.’
Dywedodd fod y farn honno, yn yr awdl, yn dal i sefyll, sef mai’r ifanc yw’r dyfodol.
Ond ychwanegodd ei fod o, o ran y sefyllfa bresennol yn gweld dau beth…
“Dwi’n gwaredu mynd i rai llefydd a chlywed bod yna gyn lleied o Gymraeg – lle o’n i’n gallu mynd erstalwm a chlywed y Gymraeg ym mhob man, ac weithiau safon y Gymraeg mewn llefydd – a dwi’n gwaredu.
“Ond wedyn ‘dwi’n edrych ar Facebook a Twitter a phethau ‘ma, ma’ ‘na gymaint o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio, yn ein cynghorau ni, ar y radio – dim ond ar Radio Cymru ers talwm oedd rhywun yn cael clywed caneuon Cymraeg.
“Ma’ nhw ar sawl sianel erbyn hyn – ‘dwi’n clywed nhw o hyd ac felly mae yna symud yn fanna, y Gymraeg yn cael ei defnyddio mwy a mwy.”

















































