Roedd ysfa barhaus ei mam i Gwyneth fod ar y brig yn deillio o’r ffaith ei bod am iddi gyflawni yr hyn nad oedd hi wedi gallu ei gyflawni, meddai yn y gyfrol.
Mewn llythyr ati yn ystod cyfnod o afiechyd meddwl difrifol tra’n fyfyrwraig yng Nghaergrawnt, dywedodd y fam Eryl Lewis, a gafodd ei magu yng nghefn gwlad Ceredigion: “Mae’r elfen hon o instability, efallai yn dod o ochr Mamgu.
“Roedd Mam-gu yn anodd iawn i fyw gyda hi – doedd yr awyrgylch gartre ddim yn dda.
“O’dd Mam yn dioddef o iselder ysbryd, o’dd ‘na hanes o gam-drin emosiynol yn y teulu.
“Dyw’r pethe yma ddim yn dod o unman,” meddai Gwyneth Lewis.
Wrth ymhelaethu ar yr orfodaeth i gystadlu, dywedodd bod y cyfan wedi’i dysgu i fod yn ddisgybledig.
“Mae’r ddisgyblaeth yna wedi helpu fi yn fy mywyd ysgrifennu ond ar y llaw arall mae cymharu’ch hunan gyda phobl eraill yn wallgof.
“Erbyn hyn dwi’n gyndyn iawn i gystadlu. Bywyd bob dydd yw’r wobr i fi a dim arall.”














































